Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Cyfle i weithio yn Ysgol y Cwm...

31/7/2019

1 Comment

 
Picture

CYFLE UNIGRYW I WEITHIO I GADW’R  IAITH GYMRAEG YN Y WLADFA!!!

Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho'r ffurflen gais: ffurflen_gais_ysgol_y_cwm.docx

 
Rydyn ni'n chwilio am Athro/Athrawes Cynradd i fod yn gyfrifol am addysgu’r Gymraeg trwy bynciau yn yr ysgol boblogaidd hon wrth droed mynyddoedd yr Andes.
Byddwn yn talu:
  • taliad misol ar raddfa athrawon lleol yn y Wladfa (hanner mewn pesos, hanner mewn punnoedd)
  • llety a biliau
  • tocyn awyren i Buenos Aires ac Esquel.
Gwyliau: pob diwrnod Gŵyl y Banc a phythefnos yn ystod gwyliau gaeaf (Gorffennaf).
 
Cefndir
Agorwyd drysau Ysgol y Cwm yn 2015 mewn ymateb i’r angen i ddathlu Canmlwyddiant a Hanner ers cyrhaeddiad y Cymry i Batagonia fyddai’n edrych i’r dyfodol ac nid yn unig cofio’r gorffennol.  Ers 1997 mae Cynllun Dysgu Cymraeg wedi bod yn anfon athrawon o Gymru i ddysgu yn y Dyffryn ac yn yr Andes ond mae llawer o gyfrifoleb arnyn nhw i ddysgu oedolion a phlant, a’r teimlad oedd mai dim ond trwy gynnig addysg ffurfiol yn y Gymraeg a’r Sbaeneg byddai’n bosib creu cenhedlaeth o siaradwyr newydd.
Prosiect ar cyd gyda’r Gymdeithas Gymraeg yn Nhrevelin ydy’r ysgol: trwy werthiant tiroedd gyferbyn â’r ysgol mae’r arian wedi ei godi er mwyn talu am yr adeilad heb unrhyw gefnogaeth sylweddol gan y llywodraeth leol. Mae’r rhieni sydd yn anfon eu plant yn talu ffi oherwydd mai dim ond dau o’r athrawon sydd yn derbyn cyflog gan y Dalaith.
 
Dechreuodd yr ysgol gyda phlant oedran Meithrin yn unig yn cael eu haddysgu yn y prynhawn a bob blwyddyn mae’r ysgol yn tyfu ac yn ychwanegu blwyddyn arall.  Yn 2019 mae plant o 3 oed hyd at Flwyddyn 3 yn derbyn addysg yn yr adeilad.  Ar hyn o bryd mae’r Cynradd yn cael eu gwersi yn y bore a’r Meithrin yn y prynhawn ond y gobaith ydy unwaith bydd yr adeilad wedi gorffen bydd yn bosib ystyried amserlen lawnach i bawb.
 
Mae’r ysgol yn ystyried bod angen cynnig addysg gyflawn ac felly mae gwersi Cerddoriaeth yn Sbaeneg ond gyda chaneuon yn Gymraeg, Ymarfer Corff yn Sbaeneg, a gweithdai coginio a gweithdai achlysurol eraill ar gyfnodau arbennig â phwyslais ar eu cynnal yn Gymraeg. 
 
Mae croeso bob amser i ymwelwyr o Gymru sydd eisiau dod i’r ysgol fel bod y plant yn arfer clywed ac ymarfer eu Cymraeg mewn sefyllfa real ac hefyd yn magu hyder wrth wneud.  Os oes sgil arbennig ganddynt mae’n braf eu bod yn ei rannu gyda’r plant a’r staff.
​
Pennaeth a Llywodraethwyr
Pennaeth yr ysgol ydy  Erica Hammond. Mae Erica wedi bod yn aelod o bwyllgor llywio’r ysgol ers nifer o flynyddoedd ac yn 100% tu ôl i’r prosiect i gynnig addysg ddwyieithog.  Mae sawl blwyddyn o brofiad gan Erica yn gweithio mewn ysgol feithrin.  Mae hi wedi treulio cyfnod yng Nghymru efo’i gŵr, y canwr Alejandro Jones ac mae hi yn dysgu Cymraeg ac yn awyddus i wella ei hiaith efo ymwelwyr o Gymru. 
 
Mae Pwyllgor Rheoli yr ysgol yn gyfrifol am benodi athrawon, codi arian a delio gyda gweithgaredd bob dydd yr ysgol. Mae cynrychiolwyr o’r ysgol ac o’r rhieni ar y pwyllgor.
 
Yr Adran Feithrin
 
Mae’r tri dosbarth Meithrin, sef plant 3 oed, 4 oed a 5 oed, o dan ofal athrawes sydd wedi’i hyfforddi o dan system y Dalaith yn yr Ariannin a gyda hi am 2 awr mae cynorthwy-ydd sydd yn siarad Cymraeg ac sydd yn canolbwyntio yn arbennig ar yr iaith.  Mae pob un o’r athrawon sydd ddim yn siarad Cymraeg yn mynychu dosbarth er mwyn dysgu a dod yn ymwybodol o’r angen i ddefnyddio’r iaith yn achlysurol hefyd.  Mae’r ysgol yn dilyn Canllawiau Talaith Chubut o ran yr addysg yn yr iaith Sbaeneg tra bod y gwaith yn Gymraeg wedi’i seilio ar gwricwlwm Cymru.
Yn anffodus nid oes gennym ddigon o staff wedi’u hyfforddi i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg felly yn y feithrinfa, un o’r oedolion sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob dosbarth h.y. naill ai’r athro neu’r cynorthwy-ydd.
 
Yn 2020 bydd y plant yn yr ysgol o 8 tan 12.00 gydag athrawon Cymraeg a Sbaeneg yn cydweithio.
 
Cyfarch a ffarwelio
Bob bore mae’r ysgol yn dechrau gyda’r ysgol i gyd yn codi a chyfarch baneri yr Ariannin a Chymru.  Gwneir hyn yn y Gymraeg a’r Sbaeneg.
 
Te
Caiff bawb amser te. Daw’r ofalwraig â hwn i’ch ystafell ddosbarth. Mae hwn yn gyfle da i fynnu ar y Gymraeg ac arferion da. Fel arfer bydd yn cynnwys paned o de neu ddŵr a bara gyda menyn, jam neu jam llaeth. Bydd y gofalwyr yn dod â phaned i chi hefyd.
 
Gwersi cerddoriaeth/dawnsio gwerin/addysg gorfforol
Mae’r gwersi hyn yn gyfnodau 40 munud ddwywaith yr wythnos i bob dosbarth. Athro penodol cymwys sy’n gyfrifol am bob un o’r gwersi arbenigol hyn.
 
Mae cynnwys a chanllawiau penodol ar gyfer addysg gorfforol a cherddoriaeth yn Sbaeneg ond o ran y Gymraeg gellir amrywio’r gweithgareddau a gyflwynir yn y gwersi fel y mynnwch, gan gofio bod angen newid y gweithgareddau yn aml er mwyn cynnal sylw’r plant.
 
Yr Ysgol Gynradd
 
Yn 2020 bydd yr ysgol ar agor o 8 tan 15.30.
 
Ar ddechrau pob dydd bydd pawb yn dod at ei gilydd i godi baner yr Ariannin a chanu.
 
Yn yr ysgol gynradd rydym yn dilyn Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cymru mewn modd trawsgwricwlaidd. Mae hyn yn golygu bod llawer mwy o ryddid gyda chi o ran cynnwys a threfn y gwersi ond gallwch ddefnyddio cymaint o ganllawiau a strwythur ag y dymunwch.
 
Mae blwyddyn 1 a 2 yn defnyddio Tric a Chlic. Rydym hefyd yn gweithio yn ôl themâu. Trefnir rhain mewn cyfarfodydd ar ddechrau’r flwyddyn ac yna wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen. Mae croeso i chi drefnu eich rhaglen waith yn unol â’ch cryfderau chi, boed yn addysg gorfforol, gemau, drama, cerddoriaeth, mathemateg ac ati ond gyda’r pwyslais ar gryfhau sgiliau ieithyddol y plant.
 
Byddwch yn ymwybodol nad yw technoleg wedi datblygu llawer yn y dosbarth yma. Daw’r athrawon â’u cyfrifiaduron eu hunain i’r dosbarth fel arfer ond mae seinydd a thaflunydd ar gael yn ôl y galw.  Mae dau dabled gyda’r athrawon Cymraeg.
 
O ran côr a dawnsio gwerin mae llawer o’r maes llafur yn mynd i ddibynnu ar ddarnau gosod eisteddfodau gwahanol yn ystod y flwyddyn, ond mae tipyn o le hefyd i ddilyn thema neu gyflwyno prosiect. Mae seinydd gyda lle i roi cof bach ar gael yn ogystal â thelyn fach (rhodd prosiect telynau y Wladfa), offerynnau taro, gitar, offerynnau llinynnol, recorders, a chlarinets (rhodd Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru, NOW) yn ogystal â phiano.
 
Gwersi cerddoriaeth/dawnsio gwerin/addysg gorfforol
Buom yn ddigon ffodus i dderbyn rhodd gan y PIP (Patagonia Instrument Project) a chaiff y deunyddiau hyn eu defnyddio gyda’r plant oed Cynradd.  Mae’r gwersi hyn yn gyfnodau 40 munud ddwywaith yr wythnos i bob dosbarth. Athro penodol cymwys sy’n gyfrifol am bob un o’r gwersi arbenigol hyn ac maent yn dod i’r ysgol yn benodol i addysgu eu pwnc ond rydym yn awyddus i’r athro/athrawes sydd yn dod o Gymru i weithio gyda ni i ganu a gwneud miwsig gyda’r plant fel rhan annatod o’r dosbarth.
 
Brecwast
Mae pob disgybl yn cael brecwast yn yr ysgol. Yn y cynradd mae hyn yn digwydd tua 9.15 pan ddaw’r gofalwyr â brecwast i’ch ystafell ddosbarth. Mae hwn yn gyfle da i fynnu ar y Gymraeg ac arferion da. Fel arfer bydd brecwast yn cynnwys paned o de neu ddŵr a bara gyda menyn, jam neu jam llaeth. Bydd y gofalwyr yn dod â phaned i chi hefyd.
 
 
 
Amser Chwarae
Ar ôl brecwast bydd hi’n amser chwarae. Mae’r athrawon yn gyfrifol am y disgyblion yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Nid oes rota ar gyfer y cyfnod hwn ond gallwch ofyn i’ch cyd athrawon oruchwylio’ch disgyblion os oes rhaid i chi wneud rhywbeth arall.
 
Yn ystod y prynhawn ceir amser chwarae arall pan fydd y gofalwyr yn rhannu ffrwythau.
 
Nid oes cloch yn canu i roi gwybod ei bod yn amser chwarae, yn hytrach bydd pob athro’n penderfynu pryd mae’n briodol i’r disgyblion gael egwyl o’u gwaith. Gellir cydgysylltu hyn â’ch cyd athrawon neu beidio, fel y bo’n briodol.
 
Parch
Rydym yn mynnu bod y disgyblion yn parchu ei gilydd ac yn parchu y bobl o’u cwmpas – o bennaeth yr ysgol i’r gofalwyr. Rydym yn disgwyl iddynt ddweud ‘Os gwelwch yn dda’ a ‘Diolch’ ac ‘Esgusodwch fi’ pan mae’n briodol. Mae’r parch hwn yn hanfodol i ethos yr ysgol.
 
Absenoldeb
Pe byddwch yn absennol am unrhyw reswm rhaid hysbysu’r ysgol o flaen llaw os yn bosib neu drwy alwad ffôn mewn sefyllfa brys. Dylid ffonio Margarita Green yr Ysgrifenyddes.  Nid yw neges destun yn briodol.
 
Yn yr un modd rhowch wybod i un o’r tîm pe bai problem gennych neu os ydych yn cael eich hun mewn trafferthion er mwyn i ni gael helpu.
 
Mentora
Bydd Nia Jones o Gymru yn gweithio eleni fel athrawes yn yr adran Gynradd felly bydd hi yn fodlon eich helpu chi i ddod i arfer â’r ysgol a’r system newydd.  Mae Margarita yr ysgrifenyddes hefyd yn berson ymarferol iawn fydd yn gefn i chi. Mae Clare Vaughan yn helpu cydlynnu addysg yn yr iaith Gymraeg ac  yn fodlon siarad am unrhywbeth sydd yn codi sydd yn achosi dryswch neu benbleth felly cadwch mewn cysylltiad efo’r tair.

 
Cyffredinol
 
Llety
Bydd tŷ wedi cael ei drefnu i chi.  Mae’r tŷ yma ar fenthyg i ni drwy garedigrwydd unigolyn felly eich cyfrifoldeb chi ydy edrych ar ôl y lle, ei gadw’n lân ac yn daclus.  Dwedwch yn syth os oes problem gydag unrhywbeth yn y tŷ er mwyn i’r broblem gael ei ddatrys.
Cludiant
Mae cerdded bob amser yn opsiwn yn Nhrevelin, heblaw am pan mae’r gwynt yn chwythu’n arw neu pan mae’n pistyllio bwrw/bwrw eira!  Weithiau bydd yn bosib i chi drefnu cael lifft efo un o’r athrawon sydd yn byw yn agos/pasio’r tŷ, dal y bws sydd yn mynd trwy’r dref neu bydd rhaid galw tacsi.
 
Y cwmni sy’n rhedeg bysus rhwng Esquel a Threvelin ydy Jacobsen ac mae’r wasanaeth yn rheolaidd.  Un o’r gyrrwyr tacsi ydy Martin +54 9 2945 336334.
Teuluoedd
Os cewch chi wahoddiad i ginio neu swper ewch!  Mae pobl yr Ariannin yn andros o groesawgar ac mae bwyta yn bwysig!  Mae’n dda mynd â photel efo chi – gwin bob amser yn cael croeso a/neu bop.
 
Yn aml bydd asado’n boblogaidd. Cofiwch roi gwybod ymlaen llaw os ydych chi’n llysieuwr! Mae’n nhw’n brin iawn yn yr Ariannin felly dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn paratoi ar eu cyfer.
 
Llefydd i gael bwyd neu dreulio orig, y rhan fwyaf efo Wifi am ddim:
Caffi yn yr orsaf betrol Axion ffordd i mewn i Drevelin o Esquel. Coffi da!
Caffi STOP yn y Plaza gyda phob math o fyrbrydau
Caffi yn yr orsaf betrol YYPF, Avenida San Martin.  Coffi da a byrgyrs.
Caffi Martin yn Avenida San Martin ger yr ysbyty
Am rywbeth mwy sylweddol:
Plaza Café yn y Plaza
Rincones del Molino, Stryd Fortin Refugio oddi ar y plaza - pob math o fwyd
Los Troncos, Avenida San Martin - pob math o fwyd
Nikanor, Stryd Libertad jyst off Avenida San Martin ger y Clwb Fontana
La Perla – stryd Perito Moreno
Fonda Sur, Stryd Cornel John Daniel Evans a Sarmiento – bwyd crand
Benedetta, stryd Sarmiento -  pastas cartref
Oregon, Avenida San Martin – parilla sef gril gyda phob math o gig a salad
Dos Naciones, Stryd Fontana, dwy sgwâr o’r plaza
Te – mae dau dŷ Te – Nain Maggie yn stryd Perito Moreno a Las Mutisias yn Avenida San Martin
Cwrw – Alma Cebada, Stryd Fortin Refugio
Hufen iâ – Decer yn y Plaza
Rincones pizza – yn y plaza, pizza i fynd
Stondin choripanes a sglodion ger y plaza
Yn Esquel mae sawl opsiwn hefyd i fwyta allan neu gael byrbryd.
 
Cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r SbaenegCerddoriaeth:
Côr Trevelin – o dan arweiniad Irving Evans yn canu hen emynau ac anthemau i gyd yn Gymraeg.  Cystadlu yn yr eisteddfod.
Coro del Sur – côr sydd yn canolbwyntio ar ganeuon gwerin a phoblogaidd yr Ariannin a De Amerig.
Grwp llinynnau Arcos – cerddorfa llinynnau yn y dref.
Dawnsio Gwerin:
Mae Jessica Jones yn arwain grŵp Dawnsio Gwerin sy’n cwrdd bob nos Iau o 20.00 tan 21.30 a bore dydd Sadwrn. Cystadlu yn yr eisteddfodau ac yn dawnsio yn y cyngherddau yn y dref.
 
Ymarfer corff
Y peth symlaf ydy’r holl gerdded bydd rhaid i chi wneud heb gar! Os ydych chi’n cerdded ar hyd yr afon mae offer ymarfer corff yn yr awyr agored.  Peth poblogaidd ydy cerdded rownd y pontydd sef ar hyd yr afon, dros y bont newydd, heibio lle mae’r jineteada ar hyd y ffordd gefn, lawr dros yr hen bont.
 
Os hoffech chwarae hoci mae clwb yn Nhrevelin.  Hefyd mae clwb tenis a digon o weithgareddau yn y Neuadd Chwaraeon o Tai Chi i gicfocsio i Zumba i ioga.  Mae sawl gampfa preifat lle mae gwersi Pliates, ioga, spin ayyb yn digwydd.
 
Pwll nofio – mae pwll nofio bendigedig yn Nhrevelin ond rhaid i chi dalu am fis a rhaid i chi weld y nyrs sydd yn y Neuadd Chwaraeon iddi arwyddo i ddweud eich bod chi’n lân ac yn gallu mynd i mewn i’r pwll. Mae amserlen eang ond mae ar gau ar ddydd Sul.
Cymdeithasu:
Mae oriau cymdeithasu yn gallu bod yn wahanol, gyda phobl yn cwrdd yn nhai ei gilydd i gael bwyd ac ati cyn mynd allan i ddawnsio yn hwyrach. Gall fod mor hwyr â 3 o’r gloch y bore ar bobl yn mynd allan i ddawnsio ar ôl bod yn cymdeithasu yn nhai ei gilydd.
 
Ar y llaw arall mae llawer yn mynd i gael pryd o fwyd a hynny am 9 o’r gloch y nos ac yn hwyrach. Nid yw’n anarferol i bobl fynd allan am swper am 10, am 11 ac yn hwyrach, yn enwedig yn yr haf.
 
Does dim byd fel tafarn Gymreig ond mae alcohol ar werth yn y caffis a’r tai bwyta.  Mae sawl lle yn Esquel i yfed a dawnsio o’r Hotel Argentino hanesyddol lle mae byrddau pŵl hefyd i Disco Club Ver i ddawnsio. Mae tri bragdy cervezeria  yn Esquel, Blest, Otto Beer a Amancay ac yn Nhrevelin, Alm Cebada.
 
 
Yfed alcohol:
Efallai gwelwch chi bod arferion yfed yn wahanol yn yr Ariannin. Mae’n arferol i bobl yfed gwin gyda phob pryd bwyd ac efallai bod llai o achosion o oryfed ar y penwythnos o ganlyniad i hyn. Ar y llaw arall mae’n siŵr bod pobl ifanc ym mhob rhan o’r byd yn goryfed, ac fe welwch chi hyn yn Esquel hefyd. Mae Esquel a Threvelin yn eithaf tawel ond fel ym mhob tref rhaid bod yn ofalus gyda’r nos i edrych ar ôl eich eiddo, aros yn y llefydd poblogaidd a pheidio crwydro.
 
Quilmes yw cwrw yr Ariannin a gwelwch chi lawer yn yfed Fernet – diod chwerw yn wreiddiol o’r Eidal, a hwnnw gyda Coca Cola neu efo Cinzano. Gwin coch Malbec welwch chi wrth y bwrdd bwyd yn aml ac mae pob archfarchnad yn gwerthu pob math o ddiodydd.
 
Rhaid bod yn 18 neu’n hŷn i yfed alcohol. Ni ddylid yfed a gyrru - mae’r trothwy yn debyg i Brydain ond os cewch eich dal efallai byddwch yn mynd i’r carchar dros nos ac yn gorfod talu dirwy drud. Os nad yw’r papurau priodol gennych mae’n bosibl byddwch yn colli’r car.
 
Fisas
Fwy na thebyg mai fisa 3 mis sydd gennych oherwydd bod fisas gweithio dros dro wedi mynd yn anoddach i’w cael yn ddiweddar yn yr Ariannin, er gwaethaf polisi’r llywodraeth. Mae hyn yn golygu bydd rhaid i chi groesi’r ffin i Chile neu wlad arall ymhen tri mis neu fynd i Rawson, i’r adran imigración i drefnu caniatád i aros yn y wlad yn hirach. Nid yw hyn yn peri trafferth fel arfer.
Capeli a gwasanaethau
Mae’r capel wedi bod yn bwysig i ddiwylliant y Cymry erioed ac nid yw’r Wladfa yn eithriad.  Er hynny erbyn hyn nid oes gwasanaethau rheolaidd yn y capeli Cymraeg sef Bethel Cwm Hyfryd a Seion Esquel.  Mae’n bwysig mynychu pan fydd gwasanaeth – sef pan fydd rhywun o Gymru yn ymweld sydd yn fodlon pregethu.  Mae Cymanfa Ganu ar ôl Eisteddfod Trevelin ac ar achysuron eraill pwysig.
 
Os ydych chi yn dilyn crefydd arall mae eglwys Gatholig yn Nhrevelin a chapel Methodistaidd yn ogystal ag enwadau eraill.  Holwch.
 
Siopa
Mae siopau ar bob cornel ac mae archfarchnad La Anonima ac Estrella (Los Chinos fel mae pawb yn ei alw).  Peidiwch â disgwyl yr amrywiaeth sydd adref yng Nghymru. Yn wahanol i Gymru mae prisiau y siopau bach yn tueddu i fod yr un peth os nad yn rhatach na’r archfarchnad, yr unig beth ydy trwy brynu llawer ar yr un pryd rydych chi’n arbed amser ac yn gallu talu efo cerdyn debyd tramor.  Mae rhai siopau bach yn derbyn arian parod yn unig.   Mae pobl yr Ariannin yn tueddu i brynu eu cig yn siop y cigydd, cyw iâr mewn siop cyw iâr, llysiau yn y siop lysiau ayyb.  Bydd angen mynd â bag achos dydyn nhw ddim yn rhoi bagiau plastig.
 
Mêcs mwyaf adnabyddus a safonol:
Caws/llaeth/menyn/iogwrt - La Serenisima, SanCor, Tregar
Siwgr - Chango
Sioced - Aguila
Ham ac ati - Bocati, Paladini
Tuniau llysiau, tiwna ac ati - La Campañola, Arcor
Reis - Gallo, Dos Hermanos
Coffi - Bonafide a Nescafe
Te - dail te yw’r gorau, dim sachau te: Taragui
Llysiau a ffrwythau - siopau lleol yn well na La Anonima
Bwyd arbenigol megis heb gliwten, figan ac ati - mae siopau arbenigol i gael ond does dim llawer o ddewis.  Gwell mynd i Esquel. 
 
Nid oes llawer o fwyd parod ac fel arfer mae pobl yn coginio popeth yn ffres neu yn galw am fwyd o rotiseria, lle maen nhw’n gwneud pob math o fwyd megis milanesa a sglodion, pasta ac ati, neu le sy’n gwerthu pizza ac empanadas.
 
Pizza ac Empanadas
Os ydych chi eisiau bwyta rhywbeth heb goginio rhaid galw heibio un o’r siopau sy’n gwerthu bwyd parod (comida para llevar).
 
Gwyliau
Mae’r tymor yn rhedeg o’r 17eg o Chwefror tan tua’r 18fed o Ragfyr gyda gwyliau’r gaeaf o 6ed i 17eg Gorffennaf. Dyma raglen yr athrawon ond nid yw’r disgyblion yn dechrau tan 9 Mawrth a byddant yn gorffen tua wythnos cyn yr athrawon ym mis Rhagfyr. Felly rydym yn dibynnu ar wyliau banc. Mae nifer fawr iawn ohonyn nhw yn yr Ariannin a dyma’r pwysicaf:
 
4/5 Mawrth -               Carnaval
24 Mawrth -                Diwrnod Cof am Wirionedd a Chyfiawnder
2 Ebrill -                       Cof am golledion y Malvinas
9/10 Ebrill -                 Pasg
30 Ebrill -                     Cymry’r Andes yn pleidleisio i fod yn yr Ariannin.
1 Mai -                         Diwrnod y gweithwyr
26 Mai -                       Diwrnod Chwyldro Mai
17 Mehefin -               Diwrnod Guemes
20 Mehefin -               Diwrnod Belgrano a’r faner
8/9 Gorffennaf -          Diwrnod Annibyniaeth
28 Gorffennaf -           Gŵyl y Glaniad
17/19 Awst -               Diwrnod San Martin
11 Medi -                     Diwrnod yr athro
21 Medi -                     Diwrnod cyntaf y Gwanwyn
12/14 Hydref -            Diwrnod parch i wahaniaethau diwylliannol
20 Hydref -                  Diwrnod Trelew
3 Tachwedd -              Llw y Tehuelches i faner yr Ariannin
18 Tachwedd -            Diwrnod sofraniaeth cenedlaethol
8 Rhagfyr -                   Diwrnod y Forwyn Fair
13 Rhagfyr -                 Diwrnod y petrol
 
Gwnewch y mwyaf o’ch cyfnod yn yr Andes gan fanteisio ar benwythnos hir i fynd i El Bolsón a Bariloche neu i fynd i Borth Madryn i weld y morfilod.  Cofiwch hefyd fod Parc Cenedlaethol Los Alerces yn 35 km o Drevelin gyda’r argau yn 18km o’r dref, y ffin gyda Chile yn 45km, Gwinllan Nant y Fall ac Amgueddfa Molino Nant Fach yn 17km, Rhaeadrau Nant y Fall, Amgueddfa’r dref, bedd y Malacara, trên La Trochita yn Esquel......Os ydych chi yn cael cynnig mynd gyda rhywun, manteisiwch!  Os ydy rhywun yn dweud galwch – galwch! Byddwch yn weladwy fel rhywun sydd yn siarad Cymraeg.
 
Pob hwyl!
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

1 Comment
professional essay writers link
31/8/2019 10:54:32 am

this is this kind of beatific resource which you are providing and you come back to an goodwill it away for forgive. I hero worship seeing weblog that acquire the price of presenting a mood useful resource for clean.

Reply



Leave a Reply.

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria