Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Cyhoeddi cystadleuaeth genedlaethol i ddylunio label ar gyfer gwin Cymreig o Batagonia

13/5/2019

0 Comments

 
 
Cafodd ei gyhoeddi ar y rhaglen gylchgrawn Heno neithiwr y bydd cystadleuaeth yn cael ei chynnal ledled Cymru gyfan i ddylunio label ar gyfer gwin o Batagonia, a fydd yn cael ei werthu yma yng Nghymru i gefnogi’r iaith Gymraeg yn y Wladfa. Mae Gwynt y Paith yn win o’r math Malbec, ac yn cael ei gynhyrchu yng ngwinllan Malma yn nhalaith Neuquen yng ngogledd Patagonia.
Bydd Gwynt y Paith ar gael i’w brynu gan y manwerthwyr Hispa Merchants, cwmni o Lundain sy’n arbenigo mewn mewnforio gwinoedd o’r Ariannin, ynghyd a rhannau eraill o Dde America a Sbaen. Bydd y gwin hefyd yn cael ei werthu gan gynrychiolwyr y cwmni yng Nghymru, ac fe fydd hefyd ar gael ar archeb ledled Prydain.
Mae’r enw Gwynt y Paith yn dathlu pwysigrwydd y gwynt, nid yn unig yn hanes y winllan, ond hefyd yn hanes y gwladfawyr cyntaf o Gymru.
Mae gwyntoedd sych y Wladfa yn golygu bod y grawnwin yn llai tebygol o ddioddef o ffwng neu o ymosodiadau gan drychfilod. O ganlyniad mae’r gwinwydd yn naturiol iach, sy’n golygu bod y driniaeth y maent yn ei dderbyn o fewn y dosbarthiad ar gyfer gwinoedd organig. Mae’r gwynt hefyd yn caledu croen y grawnwin, sy’n arwain at flasau a lliwiau dyfnach a chryfach.
Roedd y gwynt hefyd yn gyfrifol am gludo’r Cymry cyntaf i’r Wladfa mewn llongau hwylio – yr enwocaf o’r rhain oedd y  Mimosa, a laniodd yn y Wladfa yn 1865.
Cafodd y Paith, sef  y diffeithdir enfawr yng Nghanol Patagonia, ei ddofi gan y Cymry cyntaf gyda ffosydd a chamlesi sydd dal yn cael eu defnyddio heddiw i ddyfrhau fferm diroedd y Wladfa. Mae gwinllan Malma, ble gynhyrchir gwin Gwynt y Paith, hefyd yn defnyddio'r un dulliau i ddyfrhau eu gwinwydd.
Mae dosbarthwyr y gwin wedi cytuno i roi £2 o bob potel a werthwyd i Ysgol y Cwm (www.ysgolycwm.com) yn Nhrevelin, ac fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hybu a chefnogi’r diwylliant a’r  iaith Gymraeg yn y Wladfa.
Bydd y label, sy’n mesur 6cm o led ac 11cm o hyd, yn cynnwys testun yn Gymraeg ynghyd a delweddau sy’n atgyfnerthu a phwysleisio’r themâu uchod. Bydd hefyd angen dehongliad byr Saesneg o’r testun.
Bydd y beirniaid yn ystyried cyfres o labeli gan artistiaid Cymreig, yn yr un modd ac yr oedd artistiaid yn arfer dylunio labeli ar gyfer gwinoedd blynyddol Chateau Mouton Rothschild, ger Bordeaux yn Ffrainc.
Mae’r gystadleuaeth ar agor tan y 30ain o Fehefin, ac fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr 28ain o Orffennaf 2019, sef Gŵyl y Glaniad, pan fydd y Wladfa yn dathlu 154 o flynyddoedd ers cyrhaeddiad y Cymry cyntaf.
Bydd cist o win Gwynt y Paith yn cael ei roi fel gwobr i’r dylunydd buddugol, ac fe fydd enw’r darlunydd hefyd yn cael ei argraffu ar y label.

Rheolau'r Gystadleuaeth


Rhaid bod dros 18 oed i gystadlu

 
Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 30 Mehefin 2019
 
Fe fydd yr unigolyn llwyddiannus yn aseinio hawlfraint y cynllun buddugol i Bodega Malma ar gyfer y pwrpas o hyrwyddo, a'i ddefnyddio ar boteli gwin, "Gwynt y Paith". Fe fydd yr unigolyn llwyddiannus hefyd yn gwarantu fod y cynllun yn un gwreiddiol a ddim yn tarfu ar hawlfraint unrhyw drydydd-parti.
 
Dylid anfon cynlluniau i'r gystadleuaeth i [email protected] gyda'r teitl 'Cystadleuaeth Dylunio Label ar gyfer potel win "Gwynt y Paith"'. Fe fydd y cynlluniau yn cael eu trosglwyddo i'r beirniaid erbyn y dyddiad cau

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]
0 Comments



Leave a Reply.

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria