Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Dyfodol ysgol Gymraeg newydd y Wladfa yn y fantol 

4/4/2016

0 Comments

 
Erthygl gan Jeremy Wood (English version posted soon/Versión castellano publicado en breve)
Er ymdrechion di-flino cymuned y Wladfa yn Nhrevelin ac Esquel, mae’r ysgol Gymraeg newydd bydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg llawn amser i blant 3 i 11 oed wedi peidio ag agor ar amser oherwydd diffyg  cydweithrediad gan y llywodraeth, chwyddiant a phroblemau gydag arolygwyr.

Dechreuodd Ysgol Gymraeg yr Andes yn y tŷ Capel, drws nesaf i Gapel Bethel, Trevelin, ac erbyn hyn, mae ganddi enw da fel canolfan sydd wedi bod yn darparu addysg o’r radd flaenaf i ddwy genhedlaeth, ac yn wir wedi meithrin dau enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Tan yn ddiweddar buasai plant, yn ogystal ag oedolion, yn mynychu  gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes yn ychwanegol i’w haddysg mewn ysgolion lleol eraill. Daeth addysg Gymraeg swyddogol i ben dros ganrif yn ôl yn y Wladfa ac fellycanolfan i ddysgu´r iaith yn unig oedd Ysgol Gymraeg yr Andes.
Yn 2014, ffurfiwyd pwyllgor gan gymunedau Cymraeg yr Andes yn Esquel a Threvelin i bennu  blaenoriaethau dathlaidau 150 mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.  Cytunwyd yn ddieithriad ar godi ysgol feithrin ac ysgol gynradd newydd yn Nhrevelin i ddarparu cartref llawn amser i hybu´r iaith Gymraeg yn yr Andes, ac felly sefydlwyd Ysgol y Cwm.

Cafwyd addewidion o gyfraniadau ariannol sylweddol gan lywodraeth rhanbarthol yma yn yr Ariannin at gost yr adeilad yn ogystal â thalu cyflogau´r athrawon ar yr amod y buasai´r ysgol yn dilyn cwricwlwm cenedlaethol yr Ariannin. Penderfynwyd felly, er mwn manteisio ar gefnogaeth y llywodraeth, i´r ysgol newydd fod yn un hollol ddwy-ieithog, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a´r Sbaeneg. Cefnogwyd y cynllun gant y cant gan y cymunedau lleol. Rhoddwyd y tir ar gyfer yr adeilad newydd gan Gymdeithas Gymraeg Trevelin, gweithiodd y pensaer yn gwbl ddi-dal, talwyd am gyflog athro o Gymru gan berson lleol a chafodd lety am flwyddyn gan un arall.

Roedd dyfodol yr iaith Gymraeg yn y Wladfa´n edrych yn ddisglair.
Yn anffodus, derbyniwyd dim ond traean o´r arian ag addawyd gan y llywodraeth rhanbarthol, ac  hynny wedi oedi sylweddol. Yn dilyn etholiadau 2015, cafwyd gweinidogion llywodraethol newydd nad oeddent eisiau talu dyledion y swyddogion cynt. Ar ben hynny oll mae chwyddiant anferthol wedi codi costau adeiladu tua 35%. Erbyn hyn, mae cyrraedd costau cwblhahu´r gwaith ymhell y tu hwnt i gymuned Trevelin.

Er hynny, nid yw´r gymuned  wedi rhoi´r ffidil yn y to. Gwerthwyd plotiau o dir, casglwyd rhoddion ariannol o bedwar ban byd, cafwyd cyfraniad sylweddol gan yr awdur John Gower a roddodd holl elw ie lyfr Gwalia Patagonia i´r ysgol, a llwyddwyd i godi digon o arian i adeiladu rhan gyntaf yr ysgol newydd sef pedwar dosbarth.

Ond unwaith eto, oherwydd oedi pellach gyda thaliadau´r llywodraeth, nid oedd digon o gyllid i ariannu hyd yn oed cymalau cyntaf adeiladu´r ysgol.
Parhau wnaeth y gymuned a chyhoeddwyd y bysai´r ysgol newydd yn agor i blant 3, 4 a 5 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn addysgiadol, sef Mawrth y cyntaf 2016. Cofrestrodd dros 50 teulu, sy´n dangos y parch at yr iaith yn yr ardal.

Yn anffodus, yn dilyn arolwg gan y llywodraeth, mynnwyd bod system wresogi´n cael ei gosod cyn i´r ysgol agor, a hithau´n ganol haf yma. Golyga hyn gost ychwanegol o £17,000 ac yn waeth na hynny, rhieni yn danfon eu plant at ysgolion eraill (dros dro gobeithio) oherwydd ei fod yn orfodol danfon plentyn i´r ysgol ar ddechrau´r tymor pan yn 5 oed.

Agorwyd yr ysgol ddydd Mercher y nawfed o Fawrth. Dwy ystafell ddosbarth, 31 o blant, dim system wresogi, ond fe agorwyd yr ysgol.
Felly mae gan y gymuned rhyw fath o ysgol newydd. Mae´r gefnogaeth gan rieni´n anhygoel, gyda phawb yn awyddus i roi addysg yn seiliedig ar werthoedd a thraddodiadau Cymreig i´w plant, a chriw o athrawon ifanc, brwdfrydig sydd wedi ymroi yn llwyr i´w gwaith.

Mae angen £20,000 ar frys i osod y system wresogi newydd a chwblhau gwelliannau eraill er mwyn cael sel bendith arolygwyr y llywodraeth.  Bydd modd wedyn bwrw mlaen a chwblhau´r ddwy ystafell ddosbarth nesaf ar gyfer disgyblion oed 6 a 7 (yn ogystal â bod yn leoliad ar gyfer gwersi oedolion a dosbarthiadau dawns) sydd wedi eu codi ond heb eu gorffen eto. Caiff pedair ystafell ychwanegol a neuadd eu codi pan fydd yr ysgol wedi derbyn cyllid pellach gan y llywodraeth ac hefyd elw o werthu tir y Gymdeithas Gymraeg.
Wedi gweithio´n ddi-flino i godi´r arian drwy werthu tir, mae´r gymuned leol nawr yn estyn llaw at y gmuned ryngwladol i helpu i godi gweddill yr arian sydd ei angen er mwyn agor yr ysgol. Bydd pob cyfraniad, mawr a bach, yn werthfawr. Mae´r ysgol yn chwilio am unigolion neu gwmnïau i noddi dosbarthiadau, costau cysylltu â´r we, y neuadd chwaraeon a llawer mwy.

Bysai´r ysgol hefyd yn gwerthfawrogi petasech yn ymuno â´r criw cynyddol sy´n noddi´r ysgol yn fisol. Bydd noddwyr yn derbyn holl newyddion yr ysgol am ddatblygiadau a gweithgareddau ac wrth gwrs bydd bob tro croeso cynnes i chi ymweld â ni!

Os hoffech gyfrannu, mae manylion cyfrif banc yr ysgol ar gael ar y wefan sef ysgolycwm.com .
​
Dywedodd Margarita Green, ysgrifennydd yr ysgol, “Rydyn ni bron iawn a gwireddu´r freuddwyd a fydd yn sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr Andes ym Mhatagonia. Gobeithiwn y gall pobl Cymru´n cefnogi.”
0 Comments



Leave a Reply.

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria