Ysgol y Cwm
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria
[email protected]

Blog Ysgol y Cwm

Blog gyda newyddion gan athrawon, staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau Ysgol y Cwm

Un blog por los maestros, voluntarios y amigos de Ysgol y Cwm
​

A news blog by the teachers, staff, volunteers and friends of Ysgol y Cwm

Ffans Cymru'n Cefnogi'r Iaith Gymraeg yn y Wladfa

10/7/2018

0 Comments

 
[Scroll down for English version]
Bu cyffro mawr ymysg cymuned Gymreig Y Wladfa pan gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru llynedd fod dwy gêm brawf yn mynd i gael eu chwarae yn yr Ariannin am y tro cyntaf ers 2006, pan chwaraewyd un o’r gemau ym Mhorth Madryn. Yn anffodus, roedd y ffioedd a orchmynnwyd i gynnal gêm  ryngwladol yn y dalaith du hwnt i afael undebau rygbi Trelew a Phorth Madryn, ac felly fe chwaraewyd y ddwy gêm yng ngogledd yr Ariannin.
​
Serch hynny, wedi rhagweld y byddai yno frwdfrydedd ymysg cefnogwyr Cymru i ymweld â’r Wladfa yn ystod eu taith i’r Ariannin, daeth y tair ysgol Cymraeg at ei gilydd i drefnu digwyddiadau ar eu cyfer, i’w croesawu ac i godi ychydig o arian i gefnogi’r iaith Gymraeg yn Y Wladfa.
​
Teithiodd Jeremy Wood o Esquel i Gymru ar ran Ysgol y Cwm, er mwyn cwrdd â threfnwyr teithiau a oedd yn paratoi i gludo’r cefnogwyr allan i’r Ariannin, ac i egluro trefniadau’r ysgolion a’r croeso oedd yn cael ei gynllunio.
​
O ganlyniad, daeth tua 60 o gefnogwyr i Hen Gapel Bethel, y Gaiman, ar nos Fawrth y 12fed o Fehefin, i fwynhau Noson Lawen a drefnwyd gan yr Ysgolion Cymraeg yn Nhrelew a’r Gaiman. Casglwyd dros ddwy fil o ddoleri, a gafodd ei rannu’n hafal ymysg yr ysgolion.
​
Wedi dychwelyd o’r Gaiman, fe gyflwynodd Jeremy Wood yr arian a godwyd i Ysgol y Cwm yn y Noson Lawen i Gymdeithas Gymreig Trevelin. Bydd yr arian yn cyfrannu at gwblhau’r gwaith adeiladau sydd eisoes wedi cychwyn ar weddill adeilad Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.​
​


Dyma’r tro cyntaf i’r tair ysgol Gymraeg yn y Wladfa weithio ar y cyd ar brosiect o’r fath, ac, wedi llwyddiant ysgubol, mae’n debygol iawn nad dyma fydd y tro olaf.
0 Comments



Leave a Reply.

    Archifau - Archivos - Archives

    July 2024
    January 2023
    January 2021
    May 2020
    April 2020
    March 2020
    February 2020
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    October 2018
    September 2018
    July 2018
    March 2018
    August 2017
    May 2017
    March 2017
    December 2016
    October 2016
    August 2016
    April 2016
    March 2016

    Categoriau - Categorías - Categories

    All

    RSS Feed

Site powered by Weebly. Managed by iPage
  • Amdanom - Sobre - About
  • Blog
  • Rhoi - Donar - Donate
  • Diolch! - Gracias! - Thanks!
  • Yr Ysgol Uwchradd - Secundaria